A yw eich eglwys yn croesawu ymwelwyr a thwristiaid neu, os nad ydych, a hoffech agor eich drysau iddynt?
Os ydych yn un o’r rhai sy’n dymuno rhannu’r ffydd drwy estyn croeso i ddieithriaid sydd am ymweld â’ch eglwys, gallwch dderbyn cymorth drwy ddod i un o’r pedwar diwrnod hyfforddi sy’n cael eu cynnal yn ystod y gwanwyn hwn.
Dydd Mercher, Mawrth 4 yn Eglwys y Santes Fair, Abergwaun
Dydd Iau, Mawrth 26 yn y Coach House, Llandudoch
Dydd Llun, Ebrill 27 yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron
Dydd Mawrth, Mai 12 yn Eglwys Sant Cathen, Llangathen
Bydd pob dydd yn dilyn yr un patrwm, gan ddechrau am 11.00yb a gorffen am 4.00yh. Bydd pob diwrnod yn dechrau gyda chyflwyniad gan bobl leol a fydd yn rhannu eu hanes yn ceisio gwella eu gweinidogaeth ar gyfer ymwelwyr ac ansawdd y profiad a gynigir i ymwelwyr i’w heglwys. Ceir cyfle i fynd i’r eglwys fel petaech yn ymwelydd ac i drafod atblygiadau a phosibiliadau. Bydd Rhwydwaith Twristiaeth Eglwysig a Grŵp Twristiaeth yr Esgobaeth yn dweud beth yw eu hamcanion. Darperir cinio. Yn ystod y prynhawn cyhhelir sesiynau ymarferol yn defnyddio’r adnoddau a luniwyd gan grŵp twristiaeth yr esgobaeth.
Nac ydy! Nid yw yn rhad ac am ddim, ond fe gewch gwerth am eich arian. Bydd yn rhaid talu £4.00 o flaen llaw er mwyn archebu lle a chofrestru. Bydd y pump cyntaf i dalu yn derbyn yr adnoddau newydd am ddim. Dim ond lle i 25 o bobl sydd ym mhob digwyddiad. Hoffem weld 2-4 o bobl yn dod o bob un o’r eglwysi sy’n cymryd rhan. Er mwyn i’r gwaith hwn lwyddo, mae angen grŵp bach o bobl leol, wedi’u hannog gan eu hoffeiriad, i arwain y fenter. Mae’n syndod faint o bethau y gellir eu cyflawni heb wario arian sylweddol.
Er mwyn archebu eich lle, anfonwch eich siec, yn daladwy i Esgobaeth Tyddewi, at Jeremy Martineau, 11 New Hill Villas, Wdig, SA64 0DT. A chofiwch nodi dyddiad a lleoliad y digwyddiad yr hoffech ddod iddo.

